Molwch yr ARGLWYDD. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr ARGLWYDD, neu gyhoeddi ei holl foliant? Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn, ac yn gwneud cyfiawnder bob amser. Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl; ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu, imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi, a llawenhau yn llawenydd dy genedl, a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di. Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu; yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni. Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifft ni wnaethant sylw o'th ryfeddodau, na chofio maint dy ffyddlondeb, ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch. Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw, er mwyn dangos ei rym. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd, ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch. Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu, a'u harbed o law'r gelyn. Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr, ac nid arbedwyd yr un ohonynt. Yna credasant ei eiriau, a chanu mawl iddo.
Darllen Y Salmau 106
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 106:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos