Pam, ARGLWYDD, y sefi draw, ac ymguddio yn amser cyfyngder? Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus; dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun, ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD. Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio, nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau. Troellog yw ei ffyrdd bob amser, y mae dy farnau di y tu hwnt iddo; ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir; trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.” Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais; y mae cynnen a drygioni dan ei dafod. Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi, ac yn lladd y diniwed yn y dirgel; gwylia ei lygaid am yr anffodus. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau; llecha er mwyn llarpio'r truan, ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd; caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo, ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
Darllen Y Salmau 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 10:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos