Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter, ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni; yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais, ffordd drygioni a geiriau traws. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter, a chennyf fi y mae deall a gallu. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod, ac y barna penaethiaid yn gyfiawn. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i, ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn, a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr, a llenwi eu trysordai.
Darllen Diarhebion 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 8:12-21
28 Days
Do you feel overwhelmed, dissatisfied, and stuck in a rut? Wishing your day-to-day life could improve? God's Word is your guide to brighter days. During this 28-day reading plan, you will discover ways you can go from living just a good life to living the type of better life that God desires you to have.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos