Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin. Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gŵr yn ei chanmol: “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.” Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol. Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.
Darllen Diarhebion 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 31:25-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos