Diarhebion 30:3-5
Diarhebion 30:3-5 BCND
Ni ddysgais ddoethineb, ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod? Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.

