Diarhebion 3:23-26
Diarhebion 3:23-26 BCND
Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed. Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys. Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl.


