Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg, ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo. Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ, ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd. Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb, ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg. Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus, ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn. Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon, a newydd da yn adfywio'r corff.
Darllen Diarhebion 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 15:26-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos