Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy'r doeth ar gyngor. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond celwydd a draetha'r gau dyst. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu. Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch. Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn, ond bydd y drygionus yn llawn helbul. Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd. Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth, ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb. Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod, ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed. Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig. Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain. Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa, ond gan y diwyd bydd golud mawr. Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.
Darllen Diarhebion 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 12:15-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos