Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n casáu cerydd. Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar. Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
Darllen Diarhebion 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 12:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos