Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam; bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll; fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail; bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd.” Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr. Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed. Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog. Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain. Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
Darllen Diarhebion 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 1:7-19
5 Days
Seeking Daily the Heart of God is a 5 day reading plan intended to encourage, challenge, and help us along the path of daily living. As Boyd Bailey has said, "Seek Him even when you don't feel like it, or when you are too busy and He will reward your faithfulness." The Bible says, "Blessed are they who keep his statutes and seek him with all their heart." Psalm 119:2
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos