“Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun. Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.” “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun. A bydd tŷ Jacob yn dân, tŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn gynnud; fe'i cyneuant a'i losgi, ac ni fydd gweddill o dŷ Esau, oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD. Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead. Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef. Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion, i reoli mynydd Esau; a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”
Darllen Obadeia 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Obadeia 1:15-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos