Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 7:1-89

Numeri 7:1-89 BCND

Ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, fe'i heneiniodd a'i gysegru ynghyd â'i holl ddodrefn, yr allor a'i holl lestri. Yna daeth arweinwyr Israel, sef y pennau-teuluoedd ac arweinwyr y llwythau oedd yn goruchwylio'r rhai a gyfrifwyd, a chyflwyno'u hoffrwm gerbron yr ARGLWYDD; yr oedd ganddynt chwech o gerbydau a gorchudd drostynt, a deuddeg o ychen, un cerbyd ar gyfer pob dau arweinydd, ac ych ar gyfer pob un. Wedi iddynt ddod â'u hoffrymau o flaen y tabernacl, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer y rhain ganddynt i'w defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a rho hwy i'r Lefiaid, i bob un yn ôl gofynion ei waith.” Felly cymerodd Moses y cerbydau a'r ychen, a'u rhoi i'r Lefiaid. Rhoddodd ddau gerbyd a phedwar ych i feibion Gerson, yn ôl gofynion eu gwaith, a phedwar cerbyd ac wyth ych i feibion Merari, yn ôl gofynion eu gwaith; yr oeddent hwy dan awdurdod Ithamar fab Aaron yr offeiriad. Ond ni roddodd yr un i feibion Cohath, oherwydd ar eu hysgwyddau yr oeddent hwy i gludo'r pethau cysegredig oedd dan eu gofal. Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr â'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor.” Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda. Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nahson fab Amminadab. Ar yr ail ddydd, offrymodd Nethanel fab Suar, arweinydd Issachar, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nethanel fab Suar. Ar y trydydd dydd, offrymodd Eliab fab Helon, arweinydd pobl Sabulon, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon. Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur. Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai. Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel, arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Reuel. Ar y seithfed dydd, offrymodd Elisama fab Ammihud, arweinydd pobl Effraim, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud. Ar yr wythfed dydd, offrymodd Gamaliel fab Pedasur, arweinydd pobl Manasse, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur. Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni. Ar y degfed dydd, offrymodd Ahieser fab Ammisadai, arweinydd pobl Dan, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai. Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran. Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm; dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth; bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm; bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan. Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plât arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur, a phob plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; hefyd, deuddeg dysgl aur yn llawn o arogldarth, pob un yn pwyso deg sicl, yn ôl sicl y cysegr, a'r holl ddysglau aur yn pwyso cant ac ugain o siclau; hefyd, gwartheg ar gyfer y poethoffrwm, yn gyfanswm o ddeuddeg bustach, deuddeg hwrdd, deuddeg oen gwryw gyda'r bwydoffrwm; yr oedd deuddeg bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod; gwartheg ar gyfer aberth yr heddoffrwm, yn gyfanswm o bedwar ar hugain o fustych, trigain hwrdd, trigain bwch, a thrigain oen gwryw. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegru'r allor, wedi ei heneinio. Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.