Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gŵr neu wraig yn cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn rhywun arall, ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, yna y mae'n euog, a dylai gyffesu'r trosedd a gyflawnodd; rhaid iddo wneud iawn amdano trwy dalu'n ôl y cyfan, ac ychwanegu ato'r bumed ran, a'u rhoi i'r sawl y troseddodd yn ei erbyn. Os nad oes gan hwnnw berthynas y gellir talu'n ôl iddo am y trosedd, taler ef i'r ARGLWYDD, trwy'r offeiriad, gyda'r hwrdd a ddefnyddir i wneud cymod dros y troseddwr. Bydd pob offrwm, a'r holl bethau cysegredig y bydd pobl Israel yn eu cyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo; bydd y pethau cysegredig i gyd, a phopeth arall y bydd rhywun yn ei gyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo.’ ”
Darllen Numeri 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 5:5-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos