Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth. I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo. Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn ôl enwau llwythau eu hynafiaid. Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain.” Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid. Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram. Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam. I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar; ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tân halogedig gerbron yr ARGLWYDD. Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid. Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen. Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai, oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.
Darllen Numeri 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 26:52-65
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos