Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill. Daethant at Balaam a dweud wrtho, “Dyma a ddywed Balac fab Sippor, ‘Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf; fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus â thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.’ ” Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, “Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn. Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf.” Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, “Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid â gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.” Cododd Balaam drannoeth, ac ar ôl cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab. Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef
Darllen Numeri 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 22:15-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos