Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen. Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid, a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt, a dywedasant wrth henuriaid Midian, “Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes.” Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd, ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, “Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn â mi. Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio.” Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tâl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac.
Darllen Numeri 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 22:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos