Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth, a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul. Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared, aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid. Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am
“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,
Arnon a llechweddau'r dyffrynnoedd
sy'n ymestyn at safle Ar
ac yn gorffwys ar derfyn Moab.”
Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, “Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt.” Yna canodd Israel y gân hon:
“Tardda, ffynnon! Canwch iddi—
y ffynnon a gloddiodd y tywysogion,
ac a agorodd penaethiaid y bobl
â'u gwiail a'u ffyn.”
Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana, ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth, ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.
Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud, “Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.” Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt. Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw. Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi. Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon. Dyna pam y canodd y beirdd:
“Dewch i Hesbon a'i hadeiladu!
Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!
Oherwydd aeth tân allan o Hesbon,
a fflam o ddinas Sihon,
a difa Ar yn Moab
a pherchnogion mynydd-dir Arnon.
Gwae di, Moab!
Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos!
Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid,
a'i ferched yn gaethion
i Sihon brenin yr Amoriaid.
Saethasom hwy, a darfu amdanynt
o Hesbon hyd Dibon,
ac yr ydym wedi eu dymchwel
o Noffa hyd Medeba.”
Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid. Anfonodd Moses rai i ysbïo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno. Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd â hwy yn Edrei. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon.” Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.