Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl. Am iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD a gwrthod cadw ei orchymyn, fe'i torrir ymaith yn llwyr a bydd yn dwyn ei gamwedd arno'i hun.’ ” Pan oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, gwelsant ddyn yn casglu coed ar y Saboth, ac wedi iddynt ddod ag ef at Moses ac Aaron a'r holl gynulliad, rhoddwyd ef yn y ddalfa am nad oedd yn glir beth y dylid ei wneud ag ef. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll.” Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.
Darllen Numeri 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 15:30-36
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos