Dywedodd y brenin, “Beth yw dy ddymuniad?” Yna gweddïais ar Dduw'r nefoedd, a dweud wrth y brenin, “Os gwêl y brenin yn dda, ac os yw dy was yn gymeradwy gennyt, anfon fi i Jwda, i'r ddinas lle y claddwyd fy hynafiaid, i'w hailadeiladu.” Ac meddai'r brenin wrthyf, a'r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, “Pa mor hir fydd dy daith, a pha bryd y dychweli?” Rhoddais amser penodol oedd yn dderbyniol i'r brenin, a gadawodd yntau imi fynd. Yna dywedais wrtho, “Os gwêl y brenin yn dda, rho i mi lythyrau at lywodraethwyr Tu-hwnt-i'r-Ewffrates er mwyn iddynt hwyluso fy nhaith i Jwda, a llythyr hefyd at Asaff, ceidwad y goedwig frenhinol, yn gofyn iddo roi coed imi i wneud trawstiau ar gyfer pyrth y palas sydd yn ymyl y deml, a muriau'r ddinas a'r tŷ y byddaf yn byw ynddo.” Trwy ffafr fy Nuw cefais fy nymuniad gan y brenin.
Darllen Nehemeia 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 2:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos