Cythruddodd hyn fi'n ddirfawr, a theflais ddodrefn Tobeia i gyd allan o'r ystafell; a gorchmynnais iddynt buro'r ystafelloedd, a rhoddais lestri tŷ Dduw a'r bwydoffrwm a'r thus yn ôl yno. Darganfûm hefyd nad oedd y Lefiaid wedi derbyn eu cyfrannau, a'u bod hwy a'r cantorion oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau wedi mynd i ffwrdd i'w ffermydd. Yna ceryddais y swyddogion a dweud, “Pam y cafodd tŷ Dduw ei esgeuluso?” Ac fe'u cesglais at ei gilydd, a'u gosod yn ôl wrth eu gwaith.
Darllen Nehemeia 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 13:8-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos