Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nahum 1:1-15

Nahum 1:1-15 BCND

Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos. Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid; y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr, ac yn dal dig at ei elynion. Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth, ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb. Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl, a llwch ei draed yw'r cymylau. Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu, ac yn gwneud pob afon yn hesb; gwywa Basan a Charmel, a derfydd gwyrddlesni Lebanon. Cryna'r mynyddoedd o'i flaen, a thodda'r bryniau; difrodir y ddaear o'i flaen, y byd a phopeth sy'n byw ynddo. Pwy a saif o flaen ei lid? Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig? Tywelltir ei lid fel tân, a dryllir y creigiau o'i flaen. Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng; y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo. Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr, ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch. Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD? Gwna ef ddiwedd llwyr, fel na ddaw blinder ddwywaith. Fel perth o ddrain fe'u hysir, fel diotwyr â'u diod, fel sofl wedi sychu'n llwyr. Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwynio drygioni yn erbyn yr ARGLWYDD— cynghorwr dieflig. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Er eu bod yn gyflawn a niferus, eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant. Er imi dy flino, ni flinaf di mwyach. Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat, a thorraf dy rwymau.” Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: “Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.” Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd yn cyhoeddi heddwch. Dathla dy wyliau, O Jwda, tâl dy addunedau, oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto; fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.