Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio. Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef. Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch. Meddai yntau wrthi, “Gad i'r plant gael digon yn gyntaf; nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” Atebodd hithau ef, “Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.” “Am iti ddweud hynny,” ebe yntau, “dos adref; y mae'r cythraul wedi mynd allan o'th ferch.” Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a'r cythraul wedi mynd ymaith.
Darllen Marc 7
Gwranda ar Marc 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 7:24-30
9 Days
New York Times bestselling author and renowned pastor, Timothy Keller shares a series of episodes from the life of Jesus as told in the book of Mark. Taking a closer look at these stories, he brings new insights on the relationship between our lives and the life of the son of God, leading up to Easter. JESUS THE KING is now a book and study guide for small groups, available wherever books are sold.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos