Daethant i'r ochr draw i'r môr i wlad y Geraseniaid. A phan ddaeth allan o'r cwch, ar unwaith daeth i'w gyfarfod o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ynddo. Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn, oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen, a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.” Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.” A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.” Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.
Darllen Marc 5
Gwranda ar Marc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 5:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos