A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.” Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, “Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio. Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw. “Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe â'r rhwyg yn waeth. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd.”
Darllen Marc 2
Gwranda ar Marc 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 2:16-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos