Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir y defaid.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Meddai Pedr wrtho, “Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi.” Ac meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith.” Ond taerai yntau'n fwy byth, “Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth.” A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.
Darllen Marc 14
Gwranda ar Marc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 14:26-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos