Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gŵydd. Ond yn gyntaf rhaid i'r Efengyl gael ei chyhoeddi i'r holl genhedloedd. A phan ânt â chwi i'ch traddodi, peidiwch â phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Glân.
Darllen Marc 13
Gwranda ar Marc 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 13:9-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos