Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw. Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: “Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen i baratoi dy ffordd. Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo’ ”— ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.” Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno. Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud
Darllen Marc 1
Gwranda ar Marc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 1:1-14
9 Days
New York Times bestselling author and renowned pastor, Timothy Keller shares a series of episodes from the life of Jesus as told in the book of Mark. Taking a closer look at these stories, he brings new insights on the relationship between our lives and the life of the son of God, leading up to Easter. JESUS THE KING is now a book and study guide for small groups, available wherever books are sold.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos