Mathew 3:13-17
Mathew 3:13-17 BCND
Yna daeth Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo. Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, “Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?” Meddai Iesu wrtho, “Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn.” Yna gadodd Ioan iddo ddod. Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”


