Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ ” Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
Darllen Mathew 3
Gwranda ar Mathew 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 3:1-6
9 Dyddiau
Ysbrydolwyd y cynllun hwn gan gân o’r enw ‘The Dove’. Mae’n ystyried Ysgrythurau o bob rhan o’r Beibl, gan gyffwrdd ag Eden, Noa, Iesu a’r Pentecost. Wrth inni dreulio rhai dyddiau gyda’n gilydd yn ystyried y golomen yn thematig, mae’r cynllun hwn yn rhoi rhywfaint o ddiwinyddiaeth o amgylch y Drindod, yn enwedig o ystyried gwaith Creadigol yr Ysbryd Glân, ac yn delio â themâu’r Farn, y Greadigaeth Newydd, pechod a gras. Os ydych chi'n barod am peth gig, dewch mynd amdani.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos