Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd. A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno. Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira. Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw. Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: “Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd. Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Dyna fy neges i chwi.” Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion. A dyma Iesu'n cyfarfod â hwy a dweud, “Henffych well!” Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli. Yna meddai Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe'm gwelant i.”
Darllen Mathew 28
Gwranda ar Mathew 28
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 28:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos