A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi. Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi.” Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth, ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ” Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych:
“ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dyn
yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu
ac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ”
Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.” Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?”
Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.” Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.” Gwadodd yntau drachefn â llw, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr ac yn dweud wrtho, “Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu.” Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog. Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.