“Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â'r priodfab. Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall. Cymerodd y rhai ffôl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy, ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri. Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu. Ac ar ganol nos daeth gwaedd: ‘Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.’ Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau. Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.’ Atebodd y rhai call, ‘Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.’ A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws. Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, ‘Syr, syr, agor y drws i ni.’ Atebodd yntau, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.’
Darllen Mathew 25
Gwranda ar Mathew 25
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 25:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos