Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith, “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?” Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’ Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.” Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt, “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho. “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed” ’? “Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?” Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.
Darllen Mathew 22
Gwranda ar Mathew 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 22:34-46
7 Days
How can we find the right attitude for every situation? What is the right attitude? This seven-day Bible Plan finds answers in the life and teachings of Christ. Let these daily encouragements, reflective prayers, and powerful Scriptures form in you the mind of Christ.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos