Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 21:33-44

Mathew 21:33-44 BCND

“Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’ A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd. Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?” “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.” Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: “ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’? “Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd