Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni. Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd: “ ‘A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ ” Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos. Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, “Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli.” Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn. A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. Daethant i'r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
Darllen Mathew 2
Gwranda ar Mathew 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 2:1-12
7 Days
In Charles Wesley’s famous Christmas hymn, “Come, Thou Long Expected Jesus,” we sing that Jesus is the joy of every longing heart. This Advent, discover how the divine orchestration of human events and various responses to his coming, exposes the longing of our hearts. From kings and rulers to shepherds and expectant virgins, Jesus’ advent reveals what we treasure. Find him the joy of your heart this Christmas.
10 Days
For too many people, Christmas has become a long to-do list that leaves them weary and wishing for Dec. 26. In this series of messages, Pastor Rick wants to help you remember the reason you celebrate Christmas and why it should change not just the way you celebrate the holidays but the rest of your life as well.
25 Days
Don’t let the busyness and pressure of this holiday season rob you of the joy and true celebration of our Savior Jesus this December! Receive daily encouragement through Pastor Greg Laurie’s special Christmas devotions, as he reflects on the true meaning of this most celebrated time of the year. Harvest Ministries with Greg Laurie
Christmas is truly the greatest story ever told: one of God’s perfect faithfulness, power, salvation, and unfailing love. Let’s take a journey over the next 25 days to discover God’s intricate plan to save the world from sin and the promises fulfilled in the birth of His Son.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos