Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, “A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?” Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?” A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” Meddent hwy wrtho, “Pam felly y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar iddi a'i hanfon ymaith?” Atebodd ef hwy, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatâd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.” Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.” Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly. Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.”
Darllen Mathew 19
Gwranda ar Mathew 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 19:3-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos