Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch. Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.” Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, “A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?” Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir. Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.” Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.” Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall? Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy? Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu. Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb.”
Darllen Mathew 15
Gwranda ar Mathew 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 15:10-20
5 Days
Just as a physically unhealthy heart can destroy your body, an emotionally and spiritually unhealthy heart can destroy you and your relationships. For the next five days, let Andy Stanley help you look within yourself for four common enemies of the heart — guilt, anger, greed, and jealousy — and teach you how to remove them.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos