Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 13:5-12

Mathew 13:5-12 BCND

Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear. Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu. A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.” Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.