Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo. Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall. A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: “ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim. Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.’
Darllen Mathew 13
Gwranda ar Mathew 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 13:10-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos