Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt? Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd. Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: “ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’ “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef. O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi. Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith; ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
Darllen Mathew 11
Gwranda ar Mathew 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 11:7-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos