Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau. Yna anfonodd hwy allan i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu'r cleifion. Meddai wrthynt, “Peidiwch â chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod â dau grys yr un. I ba dŷ bynnag yr ewch, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal; a phwy bynnag fydd yn gwrthod eich derbyn, ewch allan o'r dref honno ac ysgwyd ymaith y llwch oddi ar eich traed, yn rhybudd iddynt.” Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iacháu ym mhob man.
Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw, ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi. Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.
Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida. Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt. Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, “Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma.” Meddai ef wrthynt, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy, “Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn.” Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un.” Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd. Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa. Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.
Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?” Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.” “A chwithau,” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb. “Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.” A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun? Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”
Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo. Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn. A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent, wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem. Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef. Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud. Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl. Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.” Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.