Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg: “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef. Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth. Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu. A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
Darllen Luc 8
Gwranda ar Luc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 8:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos