Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 7:31-50

Luc 7:31-50 BCND

“Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg? Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.’ “Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’ Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir.” Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i dŷ'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd. A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhŷ'r Pharisead. Daeth â ffiol alabastr o ennaint, a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint. Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, “Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi.” Atebodd Iesu ef, “Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Meddai yntau, “Dywed, Athro.” “Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall. Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. P'run ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?” Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho. A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, “A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th dŷ, ac ni roddaist ddŵr imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt. Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn. Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint. Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.” Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.” Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” Ac meddai ef wrth y wraig, “Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd.”