Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud: “Gwyn eich byd chwi'r tlodion, oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi. “Ond gwae chwi'r cyfoethogion, oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch. Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi, oherwydd daw arnoch newyn. Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin, oherwydd cewch ofid a dagrau. “Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.
Darllen Luc 6
Gwranda ar Luc 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 6:20-26
7 Days
A blind beggar crying out desperately by the side of the road, an immoral woman despised as dirty by polite society, a corrupt government employee hated by all – how could any of these people from society’s fringes hope to connect with a holy God? Based on insights from the book of Luke in the Africa Study Bible, follow Jesus as he bridges the gap between God and the marginalized.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos