Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.” Ond meddent hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di.” Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny.” Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn. I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd. Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, ‘Yr hen sydd dda.’ ”
Darllen Luc 5
Gwranda ar Luc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 5:30-39
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos