Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn. Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy. Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.” Ond meddent hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di.” Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny.”
Darllen Luc 5
Gwranda ar Luc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 5:27-35
5 Days
Repentance is one of the key actions we all take in coming to know Christ as our personal Savior. Repentance is our action and forgiveness is God's reaction to us out of His perfect love for us. During this 5-day reading plan, you will receive a daily Bible reading and a brief devotional designed to help you better understand the importance of repentance in our walk with Christ. For more content, check out www.finds.life.church
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos