Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene, ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch. Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo. Caiff pob ceulan ei llenwi, a phob mynydd a bryn ei lefelu; gwneir y llwybrau troellog yn union, a'r ffyrdd garw yn llyfn; a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
Darllen Luc 3
Gwranda ar Luc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 3:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos