Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto. Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant. Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’ Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau “ ‘Dweud wrth y mynyddoedd, “Syrthiwch arnom”, ac wrth y bryniau, “Gorchuddiwch ni.” ’ “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?” Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef. Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad. Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.” Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo, a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.” Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”
Darllen Luc 23
Gwranda ar Luc 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 23:27-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos