Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 20:27-47

Luc 20:27-47 BCND

Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo, “Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd. Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant. Cymerodd yr ail a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant. Yn ddiweddarach bu farw'r wraig hithau. Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.” Meddai Iesu wrthynt, “Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi; ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy. Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad. Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, ‘Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’. Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef.” Atebodd rhai o'r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”, oherwydd ni feiddient mwyach ei holi am ddim. A dywedodd wrthynt, “Sut y mae pobl yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd? Oherwydd y mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’ “Yn awr, y mae Dafydd yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?” A'r holl bobl yn gwrando, meddai wrth ei ddisgyblion, “Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd, ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”