Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd. Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith, cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:
“Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd,
mewn tangnefedd yn unol â'th air;
oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,
a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:
goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd
ac yn ogoniant i'th bobl Israel.”
Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano. Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir; a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”
Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi, ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos. A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.
Wedi iddynt gyflawni popeth yn unol â Chyfraith yr Arglwydd, dychwelsant i Galilea, i Nasareth eu tref eu hunain. Yr oedd y plentyn yn tyfu yn gryf ac yn llawn doethineb; ac yr oedd ffafr Duw arno.
Byddai ei rieni yn teithio i Jerwsalem bob blwyddyn ar gyfer gŵyl y Pasg. Pan oedd ef yn ddeuddeng mlwydd oed, aethant i fyny yn unol â'r arfer ar yr ŵyl, a chadw ei dyddiau yn gyflawn. Ond pan oeddent yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem yn ddiarwybod i'w rieni. Gan dybio ei fod gyda'u cyd-deithwyr, gwnaethant daith diwrnod cyn dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a'u cydnabod. Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano. Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi; ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion. Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat.” Meddai ef wrthynt, “Pam y buoch yn chwilio amdanaf? Onid oeddech yn gwybod mai yn nhŷ fy Nhad y mae'n rhaid i mi fod?” Ond ni ddeallasant hwy y peth a ddywedodd wrthynt. Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn ôl i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon. Ac yr oedd Iesu yn cynyddu mewn doethineb, a maintioli, a ffafr gyda Duw a'r holl bobl.